Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun ciniawau poeth am ddim i bob
plentyn mewn dosbarthiadau derbyn, blwyddyn1 a blwyddyn 2.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae nifer o astudiaethau wedi dangos fod bod â chwant bwyd yn
effeithio ar y gallu i ganolbwyntio, a bod plant sy’n cael
digon o faeth yn gwneud yn well yn yr ysgol. Byddai ymestyn y
ddarpariaeth ciniawau ysgol am ddim hefyd yn helpu teuluoedd i dalu
eu costau byw, oherwydd amcangyfrifwyd bod cinio ysgol cyffredin ar
gyfer pob plentyn yn costio £437 y flwyddyn i rieni. Mae
Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd pob plentyn rhwng pump a
saith mlwydd oed yn ysgolion y wladwriaeth yn Lloegr yn cael
ciniawau ysgol am ddim. Rydym ni o’r farn y dylai Llywodraeth
Cymru wneud yr un peth.
Prif ddeisebydd: Jane Dodds
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 26 Tachwedd 2013
Nifer y llofnodion: 14